gweithdai

warhorseworkshopbridgendcollege©kirstenmcternan-41.jpg

gweithdai

Dyma fraslun o'r hyfforddiant rwy'n ei gynnig ar gyfer chwedleuwyr ac athrawon. Cliciwch ar y lluniau er mwyn cael gwybod mwy am weithdai penodol, a sut i gofrestru a thalu am gyrsiau cyfredol. Fel arfer mae llefydd yn mynd yn fuan ar ôl cael eu cyhoeddi felly tanysgrifio i fy rhestr e-bost fydd y ffordd orau i sicrhau mai chi fydd ymhlith y rhai cyntaf i glywed.

Un o’r sesiynau mwyaf radical a pherthnasol rwy erioed wedi mynychu fel storïwr
— Tim Ralphs - storïwr

chwedleua ym Mleddfa

Rwy wedi bod yn arwain a chyd-arwain cyrsiau chwedleua yng Nghanolfan Bleddfa yn Sir Faesyfed ers dros ugain mlynedd lle cynhelir cwrs wythnos o hyd yn ogystal â chyrsiau byr ar agweddau penodol storïo. Mae'r cyrsiau yn bwcio nawr.

sgiliau cyfrin y chwedl

Y mae llu o dechnegau defnyddiol, manwl a phwerus yn guddiedig o dan ein trwynau yn ein harferion cymdeithasol o adrodd straeon. Yn y gweithdy hwn darganfyddwch beth ydyn nhw a sut i'w defnyddio er mwyn bod yn fwy dilys, rhydd a phresennol wrth adrodd

_DSC5961.jpg

rhythm y chwedl

Mae rhythm yn rhan annatod y chwedl fel dull o adrodd ac fel rhan sylfaenol ei strwythur. Unwaith eich bod chi'n dechrau teimlo sut mae rhythm yn gweithio wrth adrodd mae posibiliadau di-ri yn ymddangos. Dysgir y cwrs hwn ar y cyd gyda'r gantores a chyfansoddwraig Pauline Down.

chwedl y corff

Mae’r corff yn adnodd gwerthfawr wrth adrodd ac yn y gweithdy hwn cewch dechnegau syml ac effeithiol fydd yn eich galluogi i ddefnyddio ac ymddiried ym mhresenoldeb a phwer y corff ar lwyfan mewn ffordd sydd yn unigryw i chi.

llais llafar

Dyma gwrs fydd yn eich galluogi i fagu perthynas creadigol a chyfoethog gyda'ch llais. Byddwn yn gweithio gyda thechnegau i greu mwy o atseinedd a phŵer yn eich llais a'ch gallu cynhenid i gyffwrdd y gynulleidfa'n ddwfn. Mae'r cwrs yn cael eu harwain ar y cyd gyda'r gantores a chyfansoddwraig Pauline Down.

y chwedl ar lwyfan

Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio gofod, gwaith byrfyfyr, y corff ac adrodd gydag eraill er mwyn cael perfformio yn effeithiol mewn mannau mwy 'theatrig' heb golli naws ac agosatrwydd y chwedl.

adrodd mythau

Dewch a myth i weithiau arno a defnyddiwn ni nifer o dechnegau er mwyn treiddio i mewn i'r deunydd hynod a dwfn hwn a dechrau ei adrodd gydag argyhoeddiad a hwyl. Mae'r gweithdy wedi'i seilio ar ddulliau a helpodd creu y sioeau Hunting the Giant's Daughter a Breuddwydio’r Cae’r Nos gyda'r cwmni cynhyrchu Adverse Camber

Shakespeare y storïwr

Gweithiwn ni gyda geiriau Shakespeare ei hunan yn ogystal â'r straeon oedd yn gyfarwydd iddo . Mae'r gweithdy wedi seilio ar y gwaith paratoi ar gyfer y sioe Angerona ac arweinir gyda Paula Balbi.

chwedlau hud a lledrith

Mae'r straeon gwerin a gasglwyd gan Grimm, Calvino, John Rhys ac eraill yn ffynonellau naratif gwych ar gyfer unrhyw un sydd yn adrodd straeon. Dewch â stori werin ac awn ni ati i ffeindio'r grym, pleser, hud a lledrith sydd yn aros tu fewn a'i rannu gyda chynulleidfa

y dosbarth creadigol

Mae'r gweithdy hwn yn defnyddio creadigrwydd cynhenid athrawon ac yn rhoi hwb i'w hyder fel hwyluswyr creadigrwydd ar lawr y dosbarth. Y mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd yn paratoi ar gyfer prosiectau Ysgolion Creadigol Arweiniol a'r cwricwlwm newydd.

Roedd Michael yn wych, llawn hwyl ac egni a chafodd y gorau allan o bawb... Gweithdy gwych! Ysbrydoledig, dynol a hwyl. Roedd brwdfrydedd Michael yn gampus a roedd y grŵp yn dda iawn ac yn cyd-dynnu bob tro. Rwy’n gadael y gweithdy gan deimlo’n hyderus ac yn hapus...Penwythnos gwych. Rwy wedi dysgu cymaint am strwythur a chreadigrwydd chwedleua. Llawer i feddwl amdani. Darganfyddais i lawer o syniadau newydd a chyffrous... Wedi joio mas draw ac wedi dysgu llawer. Gweithdy gwych... Arweiniodd Michael y grŵp mewn ffordd ragorol a helpodd e fi yn aruthrol... Gweithdy rhagorol, defnyddiol, ymarferol a llawn hwyl! Roedd y cwrs wedi’i arwain yn dda iawn. Pobl gwych. Rwy’n teimlo’n llawn bywyd.