ysgolion

DSC09657.jpg

ysgolion

Rwy’n gweithio fel storïwr ar gyfer pob oedran o'r Cyfnod Sylfaen hyd at ysgolion uwchradd gan gynnwys grwpiau gydag anghenion arbennig. Mae pob ymweliad yn dechrau gyda sesiynau adrodd ar thema i'w phenderfynu o flaen llaw. Mae llawer o ysgolion yn dewis cael sesiynau dilynol er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd ac ysgrifennu creadigol y plant gan ganolbwyntio ar naill ai barddoniaeth neu naratif. Byddaf yn gweithio yn aml gydag artistiaid eraill ar brosiectau aml-gelfyddydol.

Rwy'n defnyddio arddull sydd yn gadael digon o le i'r gwrandawyr ymuno ac i'r straeon aros yn fyw yng nghof y plant am amser maith sydd wedi arwain at lawer o wahoddiadau i ddychwelyd i'r un ysgolion tro ar ôl tro. Mae nawdd ariannol ar gael ar gyfer ymweliadau o dan gynllun Awduron ar Daith Llenyddiaeth Cymru.

Rwy wedi datblygu dulliau syml ac effeithiol o greu straeon a barddoniaeth gyda'r dosbarth cyfan. Cewch weld esiamplau o'r gwaith yma. Yn aml iawn, ar ôl adrodd set o straeon, rwy'n mynd ati i hwyluso sesiwn creu stori sydd yn cael ei recordio a'i gadael yn y dosbarth fel mp3 fel yr un isod...

Rwy wedi cynllunio ac arwain prosiectau ar gyfer Cadw, Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, S4C, Clwyd Theatr Cymru, Olympiad Diwylliannol, Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, BBC, Canolfan Mileniwm Cymru ac awdurdodau addysg a gwasanaethau llyfrgelloedd ledled y wlad.

Rwy wedi gweithio yn gyson fel Ymarferydd Creadigol ac Asiant Creadigol ar Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol (Llywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau) gan gydweithio gydag artistiaid eraill, staff a disgyblion er mwyn creu a gweithredu prosiectau sydd yn hybu dysgu creadigol cyn cyflwyniad cenedlaethol y cwricwlwm newydd yn 2022.


Hyfforddiant ar Gyfer Athrawon

Magu Creadigrwydd

Gyda'r galw ychwanegol am addysg greadigol wrth i'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol ehangu trwy'r wlad er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, rwy'n cynnig sesiynau magu creadigrwydd i athrawon er mwyn rhoi hwb i'w hyder creadigol eu hunain a'u cynorthwyo i hwyluso creadigrwydd eraill. Mae'r sesiynau ar gael i Ysgolion a'r Consortia Addysgol Rhanbarthol. E-bostiwch am ragor o wybodaeth.

 

Chwedlau, Llefaredd, Llythrennedd a Chymraeg Ail Iaith

Rwy'n cynnal sesiynau chwedleua i athrawon CA 1 a 2 gan ddefnyddio dull syml ac effeithiol Difyr heb Lyfr

prosiect Ysgolion Arweiniol Creadigol

prosiect Ysgolion Arweiniol Creadigol

Perfformiad a gwaith dilynol gwych
— Ysgol Bryn Tabor, Wrecsam
Roedd y sesiwn yn rhagorol yn nhermau helpu’r plant i ddatblygu eu dychymyg, a’u gallu i adrodd ac ysgrifennu straeon .
— Ysgol Bro Famau
Strategaethau datblygu iaith rhagorol.
— Ysgol Bro Carmel