Michael Harvey storyteller

llais llafar

_MG_4762+2.jpg

llais llafar

Y mae’r llais wrth wraidd ein gwaith fel storïwyr ond mae gan gryn nifer ohonon ni fawr o glem sut i weithio gyda hi a’i datblygu. Yn y gweithdy hwn y byddwch yn dysgu nifer o dechnegau ac agweddau syml ac effeithlon fydd yn eich galluogi i adrodd gydag argyhoeddiad a hyder, cysylltu â’ch cynulleidfa mewn ffordd uniongyrchol a hyblyg a chael rhagor o foddhad a mwynhad o’ch gwaith ym maes y chwedl.

Pauline Down a Michael Harvey yn perfformio yn Newhaven

Pauline Down a Michael Harvey yn perfformio yn Newhaven

Cwrs ymarferol yw hwn fydd yn trawsnewid eich perfformiadau gan roi’r arfau i chi fydd yn eich helpu i ddatblygu llais chwedleua ddilys ac ymgorfforedig yng nghwmni dau hwylusydd a pherfformiwr penigamp. Gweithiwn ar sut i ddatblygu lleisiau cryfach ac mwy rhydd a dod â’r ansoddau hyn i mewn i’ch chwedleua. Gweithiwn ni fel grŵp cyfan, mewn grwpiau bach ac mewn parau.

Y mae Michael Harvey wedi gweithio trwy’r byd gan adrodd straeon traddodiadol ac arwain gweithdai. Tirwedd a chwedlau o Gymru yw ei gynefin creadigol ac mae wedi gweithio yn helaeth gyda’r cwmni cynhyrchu Adverse Camber gan deithio’r sioe arobryn Hunting the Giant’s Daughter (fersiwn ffyddlon a chyfoes y chwedl Culhwch ac Olwen) a Breuddwydio’r Cae Nos/Dreaming the Night Field sydd ar gael mewn fersiynau dwyieithog a Chymraeg. Enillodd e wobr Cymru Creadigol a buodd e yn aelod o’r trydydd grŵp arbrofol ‘le Labo’ yn La Maison du Conte ger Paris.

Athrawes llais, cantores a chyfansoddwraig yw Pauline Down ac un o sylfaenwyr y Natural Voice Network. Y mae hi’n arwain corau cymunedol, cynnal sesiynau ar gyfer unigolion a grwpiau bach er mwyn hybu hyder a sgiliau llais. Mae hi’n arweinydd ym maes Canu a Lles. Y mae ganddi brofiad helaeth yn y theatr ac mae hi wrth ei bodd yn perfformio barddoniaeth a chanu harmoni a cappella gyda grwpiau megis y Chalk Circle Collective.

Efallai un o’r cyrsiau mwyaf pwerus a llawn hwyl rwy eiried wedi gwneud. Arweiniodd Michael a Pauline ni â chyffyrddiad ysgafn a chadarn.

Rwy wedi gwneud llawer o gyrsiau dros y blynyddoedd a sa i’n cofio dim byd gwell.

Ffocws clir, ymarferol a llawn gwybodaeth. Y mae gan Michael a Pauline lwyth o brofiad a dull gwyliadwrus

Datblygiad anhygoel o lais dilys a rhydd a datblygiad o siarad ar y cyd gyda’r anadl.

Cwrs ardderchog a fy helpodd i ddarganfod llais dilys a chlir a dechrau adrodd straeon am y tro cyntaf.

Roeddwn wrth fy modd gyda’r dull o hwyluso a’r ffordd hamddenol y daliwyd y gofod i ni gael arbrofi pa bynnag agweddau roeddwn ni’n gweithio arnynt.


Cyfle gwych i archwilio’r cymhlethdod a dyfnderoedd y llais a’i thrin ym maes y chwedl. Cwrs wedi’i hwyluso’n dda oedd hwn gyda chyfle i symud, gwneud sŵn a chwerthin.

Rwy’n gadael y cwrs gydag amrywiaeth o arfau penodol fydd yn helpu fy chwedleua, heb os nac oni bai.
Cwrs ardderchog a fy helpodd i ddarganfod llais dilys a chlir a dechrau adrodd straeon am y tro cyntaf.

Roeddwn wrth fy modd gyda’r dull o hwyluso a’r ffordd hamddenol y daliwyd y gofod i ni gael arbrofi pa bynnag agweddau roeddwn ni’n gweithio arnynt.


Cyfle gwych i archwilio’r cymhlethdod a dyfnderoedd y llais a’i thrin ym maes y chwedl. Cwrs wedi’i hwyluso’n dda oedd hwn gyda chyfle i symud, gwneud sŵn a chwerthin.

Mae gennyf nifer o arfau nawr i weithio ar ryddhau’r llais, datblygu cymeriad a nawr mae gennyf ddealltwriaeth ddyfnach sut mae’r anadl yn dylanwadu a chwedleua - yn llythrennol fesul brawddeg.
— adborth gweithdy