amdana i

_DSC6410.jpg

amdana i

Rwy'n adrodd straeon traddodiadol o bedwar ban byd i bob oedran. Straeon o Gymru a gwledydd Celtaidd eraill yw fy neunydd craidd ond, yn y bôn, rwy'n adrodd unrhyw stori sydd yn rhoi ysfa i'w hadrodd.

Rwy'n gweithio gyda grwpiau cymunedol, mewn theatrau, tafarndai, ysgolion, gwyliau, llyfrgelloedd, neuaddau pentref, orielau ac amgueddfeydd. Weithiau rwy'n perfformio ar fy mhen fy hun ac weithiau mewn cydweithrediad gydag artistiaid eraill a chwmnïau cynhyrchu. Rwy'n hyfforddi storïwyr profiadol a darpar storïwyr ac yn helpu athrawon i ddefnyddio chwedleua fel arf hyblyg a grymus er mwyn hybu llythrennedd a Chymraeg fel ail iaith.

Yng Nghymru mae rhan fwyaf fy ngwaith ond rwy'n gweithio tramor hefyd - yn bennaf yn Ewrop, gwledydd America a'r Dwyrain Pell. Mae nifer o brosiectau ar y gweill sydd yn gydgynhyrchiadau blaengar gyda chyrff ac artistiaid y wlad hon a thu hwnt ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd.

Michael Harvey - gweithdy yn Nhwrci

Rwy wrth fy modd gyda'r agosatrwydd sydd yn elfen annatod chwedleua a'r ffaith bod bob math o gynulleidfa yn dod o hyd i gysylltiadau rhyngddynt a'r deunydd mewn ffordd hygyrch a dwfn. Rwy am arbrofi gyda'r hyn sydd yn bosibl gyda chwedl ar lwyfan ac wedi cael fy nghomisiynu i greu gwaith arbrofol newydd ar gyfer gwyliau a theatrau blaengar. Enillais Wobr Cymru Creadigol yn 2011 a arweiniodd at nifer o prosiectau blaengar y gallwch chi ddarllen amdanynt yn nudelannau’r wefan

Mae croeso i chi bori trwy'r wefan gan ddefnyddio'r botwm 'cynnwys' ar dop pob tudalen neu'r rhai cyfryngau cymdeithasol. Mae croeso i chi e-bostio os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth.


Mae nifer o CD's a recordiadau ar werth ar fy siop ar lein yn ogystal â llyfrau. Y mae podlediadau ar gael isod neu trwy ddefnyddio’r botwm ‘Apple podcast’ ar dop y dudalen (yr un syn edrych fel y llytheren i -dot gyda tharged y tu ôl).


Podlediadau

Hefyd ar gael ar Spotify, Apple Podcasts, a Stitcher

Fi dynodd y rhan fwyaf o’r ffotos ar y wefan hon ond hoffwn cydnabod gwiath y ffotograffwyr dawnus canlynol Chris Webb, Alessandro Pensini a Kirsten McTernan