arweinyddiaeth

DSC06063.jpg

arweinyddiaeth

Y mae creadigrwydd ymarferol wrth wraidd yr hyfforddiant rwy'n ei gynnig i sefydliadau, cwmnïau a chyrff eraill.

Rwy'n cymryd y dulliau, agweddau a strategaethau creadigrwydd ymarferol a'u defnyddio yng nghyd-destun y gweithle er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o wynebu heriau go iawn eich tîm. Rwy'n cynnig sesiynau hyfforddiant ar sgiliau cyflwyniadau sydd yn tynnu ar sgiliau cudd y storïwr.

Rwyf yn aelod cysylltiol o Narrative Leadership Associates ac wedi gweithio gyda nifer helaeth of sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, addysg, preifat ac iechyd.

Rwy wedi gweithio gyda'r Ganolfan Fusnes Saïd ym Mhrifysgol Rhydychen, Exeter Leadership Consulting, Biomet Merch, Arts & Business, Christie Tyler, awdurdodau lleol, a llawer eraill. E-bostiwch i gael gwybod rhagor.

“Diwrnod llawn hwyl... Gwelais sgiliau yn fy nghyd-weithwyr doeddwn erioed wedi eu gweld o'r blaen... aeth y gwaith adeiladu tîm yn dda iawn... Ces i fy synnu gan beth mae pobl yn gallu ei wneud pryd mae angen...Pwysleisiodd y sesiwn bod modd i ni wneud pethau anghyffredin a gwahanol...Dysgais i fwy am fy nghyd-weithwyr nag oeddwn i'n gwybod o'r blaen... Daethon yn nes at ein gilydd a nawr rydyn ni'n gallu siarad wyneb yn wyneb... Mae'r tîm wedi bod gyda'i gilydd ers dwy neu dair blynedd (rhai ohonon ni yn llawer hirach) a dyna'r tro cyntaf i ni erioed ddod ynghyd a CHYFATHREBU... Y mwyaf rydyn ni'n siarad am y diwrnod hyfforddiant ar hyn y rydyn ni wedi'i wneud y mwyaf rydyn ni'n sylweddoli cymaint rydyn ni wedi dysgu...Rydyn ni wedi bod wrthi yn gweithio ar brosiect pwysig yn ddiweddar ac wythnos diwethaf oedd y dedlein. Rwy wir yn credu bod y diwrnod hyfforddiant wedi'n helpu ni cwrdd â'r terfyn amser... Grymuso yw'r wers bwysicaf. Os ydy'r tîm wedi ei rymuso i wneud penderfyniadau mae wir yn gweithio. Dyna beth ddigwyddodd ar y dydd.”

— adborth o fynychwyr hyffordiant—