angerona cym

DSC_4608.jpg

angerona

enw dirgel Rhufain

angerona flyer 480x672.jpg

Fersiwn beiddgar The Rape of Lucrece gan Shakespeare

Roedd y Rhufeiniaid yn arfer cadw delw un o'u duwiesau henaf a mwyaf dirgel mewn cilfach arbennig yn Nheml Pleser. Y dduwies Angerona oedd hon a hi oedd duwies y tristwch a distawrwydd sy wedi nodi bywydau merched sy wedi dioddef camdriniaeth ers Oes yr Hen Rufain a chynt.

Hanes Lucretia yw hon - hanes menyw a dorrodd y distawrwydd hwnnw. Ailadroddwyd y stori hon droeon gan awduron yr hen fyd, gan gynnwys Lifi ac Ofid, ac wedyn ymledodd trwy Ewrop cyn cael ei haddasu gan Shakespeare, meistr angerdd, gwaed a chomedi tywyll. Y mae'r addasiad  beiddgar hwn yn cyfuno y gorau o chwedleua cyfoes gyda geiriau Shakespeare ac arddulliau theatraidd a gweledol.

Y mae Paola Balbi a Michael Harvey yn storïwyr ac arweinwyr hyfforddiant  blaengar yn yr adfywiad cyfoes chwedleua yn Ewrop. Deilliodd y cynhyrchiad hwn o dair blynedd o waith arbrofol a sgwrsio dros nifer o brosiectau rhyngwladol

Mae'r perfformiad ar gael fel sioe awr o hyd gyda cherddoriaeth fyw gan Davide Bardi gyda'r opsiynau o weithdai ymarferol  a rhai sydd yn delio a'r materion a godir gan y sioe.

 

mae'r sioe hon ar gael yn saesneg   cliciwch yma am wybodaeth dechnegol

A promo video for Angerona - the secret name of Rome performed by Paola Balbi and Michael Harvey with music by Davide Bardi. Storytelling meets Shakespeare in this international collaboration that has bee performed already in Rome, Bolzano, Viareggio and Singapore. UK dates to be announced soon
Roedd perfformiad Angerona nos Sadwrn diwethaf yn anhygoel. Roedd y ddau ohonom wedi syfrdanu gan y perfformwyr a’r ffordd wnaethon nhw dal ein sylw’r noson honno. Rwy mor hapus ein bod ni wedi cael y cyfle i weld y perfformiad yn y Glôb Byw. - rhoddodd y ffaglau a’r gerddoriaeth cyn i ni fynd i mewn i’r theatr ar gyfer rhan olaf y noson awyrgylch arbennig.
— adborth y gynulleidfa i berfformiad o Angerona yn y Glôb Byw