hyfforddiant ar lein

“Y mae sesiynau hyfforddiant Michael yn union fel hyfforddiant Jedi ar gyfer storïwyr”
— Daniel Allison - storïwr ac awdur
DSC04939.jpg

hyfforddiant a chyrsiau ar lein

“Un o’r sesiynau mwyaf radical a pherthnasol rwy erioed wedi mynychu fel storïwr.”
— Tim Ralphs, storïwr proffesiynol

Cliriodd yr hen Cofid pob dyddiad o fy nyddiadur felly rwy wedi hyfforddi gyda’r cwmni hyfforddiant ar lein Mirasee o Ganada er mwyn cynnig hyfforddiant ar lein i grwpiau ac unigolion. Hyd yn hyn, rwy wedi creu cwrs peilot a chwrs ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ym mis Chwefror dechreua i gyda grwp Almaeneg ei iaith.

Mae’r cwrs chwedleua ar lein yn cynnig hyfforddiant sylfaenol a hyblyg ac yn defnyddio dulliau ac ymarferion sydd yr un mor berthnasol i chwedleuwyr profesiynol a rhai newydd. Mae’r dulliau rwy’n eu defnyddio yn deillio o dros ugain o flynyddoedd o hyfforddi yn y cyrsiau blynyddol ym Mleddfa, mewn prifysgolion ac yn rhyngwladol. Rwy wrthi yn datblygu cyrsiau newydd a grwpiau cyd-hyfforddi fydd ar gael ar lein o fis Ebrill.

Rhowch eich e-bost mewn un o’r bylchau isod er mwyn cael gwybod rhagor…


Ymatebion o’r Cwrs Peilot a’r Cwrs Cymraeg

“Y mae cwrs Michael yn llawn gwybodaeth sydd wedi’i chyflwyno mewn ffordd addfwyn a gofalgar. Gorffenais i’r cwrs gan deimlo’n fwy hyderus ac yn storïwr gwell. Byddwn yn argymell eich bod chi’n gweithio gyda fe os cewch chi’r cyfle.”
“GWNEWCH E, jyst ffeindiwch yr arian a GWNEWCH E”
— Stacey Blythe, storïwraig a cherddor
“Dyma ble darganfyddais hyder yn fy llais a fy arddull stori.”
— Siân Miriam Parry, cantores a storïwraig
“Mae Michael yn diwtor gyfeillgar, cefnogol a medrus. Creuodd gist trysor o adnoddau i roi yn fy ‘tool kit’ ac mae ganddo fo ddull hyfryd o arwain ac egluro, sydd yn codi hyder a hwyl ac yn creu awyrgylch gynnes a chefnogol yn gyflym iawn.”
— Dr. Fiona Collins - storïwraig
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un. Mae Michael yn athro medrus iawn ac mae’n creu amgylchedd cefnogol iawn i ddatblygu sgiliau adrodd stori.”
— Angharad Evans - artist cymunedol

Rhagor o ymatebion gan eraill sy wedi hyfforddi gyda Michael Harvey

“Diolch i Michael am hwyluso’r darganfyddiad chwedleua dilys. Y mae’r deunydd a minnau bellach yn cyd-weu fel uned gan gyfuno’r dulliau amrywiol o adrodd a gyflwynwyd ganddo. Nid yw’r stori ar wahân bellach na wedi’i llwyfannu ac rwyf yn gadael iddi lifo. Bu’r darganfyddiad hwn yn hanfodol - diolch Michael am eich arbenigedd ac arweinyddiaeth. ”
— Siân Miriam Parry - storiwraig a chantores
“Rwy wedi dechrau cymryd sesiynau hyfforddiant gyda Michael ac yn credu eu bod nhw’n hynod o ddefnyddiol. Ers amser hir rwy wedi teimlo bod fy chwedleua heb ddatblygu llawer. Ar ôl dim ond un sesiwn gyda Michael roeddwn yn gallu gweld y ffordd ymlaen yn glir. Y mae’r sesiynau yn llawn hwyl yn ogystal â bod yn heriol ac mae e’n rhoi nodiadau ysgrifenedig ar ôl pob sesiwn. Nid wyf yn gallu argymell y proses hwn yn ddigon. ”
— Daniel Allison, storïwr ac awdur
“Y defnydd gorau o amser ac arian rwy’n gallu cofio. Gwellais i lawer mewn amser byr”
— Jonathan Lambert - storïwr a cherddor
“Mae gwahaniaeth mawr rhwng perfformiwr sydd dim ond yn pasio gwybodaeth ymlaen ac athro sydd yn creu gofod er mwyn i chi ddysgu’r hyn rydych chi’n barod i’w ddysgu ac yn cyd-gerdded gyda chi. Gwir athro yw Michael”
— Alys Torrance, storïwraig ac actor
“Y mae gan Michael arddull hamddenol a chefnogol sydd yn golygu ei bod hi’n hawdd arbrofi - ond mae’r dulliau â seiliau cadarn o wybodaeth a sgil.”
— Dr. Steve Killick, storïwr a seicolegydd
Gweithdy Chwedleua gyd NT ar daith gyda War Horse

Gweithdy Chwedleua gyd NT ar daith gyda War Horse

“Y mae hyfforddiant adrodd straeon Michael Harvey yn anhygoel. Dysgais i lawer am feistroli llif y stori ac am blethu’r gwahanol fydoedd sydd ynddi er mwyn creu cyfanwaith lliwgar ar gyfer y gynulleidfa. Rwyf yn gwerthfawrogi’n fawr ei ffordd naturiol, ysbrydoledig, deimladwy a sensitif o hyfforddi.”
— Nana Tomova, storiwraig a fferyllydd
“Meistr o storïwr yw Michael a hwylusydd medrus iawn. Y mae ganddo’r ddawn o greu awyrgylch hamddenol wrth eich cadw yn effro yn greadigol. Roedd y sesiynau tu hwnt o werthfawr gan fy nghynorthwyo datblygu llais mwy ystwyth a dilys.”
— Deborah Gordon, storiwraig
Gweithdy Chwedleua gyda’r grŵp Seiba yn Twrci

Gweithdy Chwedleua gyda’r grŵp Seiba yn Twrci