Michael Harvey storyteller
DSC05520.jpg

blog

Posts about storytelling, landscape and culture with a focus on Welsh material and places. Mostly by me but also featuring plenty of guest posts and interviews.

Dydd Mercher y Mabinogi #1 - Dafydd Davies-Hughes

DSC02539.jpg

Golygfa o’r Gwely a Brecwast lle bu Dafydd a finnau’n aros yn Harlech ar gyfer penwythnos o chwedleua a drefnwyd gan Tu Hwnt i’r Ffin yw’r llun uchod. Gyda chastell Harlech a mynyddoedd Gogledd Cymru fel cefnlen does dim rhyfedd bod ein trafodaeth wedi troi at y Mabinogi. Rwy’n nabod Dafydd ers lawer dydd a pan glywais y byddwn ni’n cyd-weithio yn Harlech roedd rhaid trefnu cyfweliad.

Y mae Dafydd yn storïwr, saer coed a chyfarwyddwr a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i Fenter Felin Uchaf ym Mhen Llŷn. Roeddwn yn awyddus siarad â fe oherwydd ei gysylltiad cryf gyda thirwedd Cymru a’r Mabinogi a roedd yn fraint ac yn bleser gwrando ar beth roedd ganddo i ddweud ac rwy’n siwr y byddwch chi’n cytuno.

Yn ystod ein sgwrs fer llwyddon ni siarad am…

ddh.jpg
  • I’r dyfodol y mae’r straeon yn perthyn, nid i’r gorffenol

  • Tirwedd, hunaniaeth, Cymru

  • Sut mae’n profiad o’r straeon yn newid wrth i ni aeddfedu

  • Doethineb a chymhlethdod y straeon

  • Amhosibilrwydd gwhanu daioni a drygioni

Yn ystod y sgwrs sonion ni am y stori Persiadd y Shanahmeh a dihongliad y storïwr Guto Dafis o’r cymeiriad Manawydan o’r Mabinogi.

Mae nifer o gyfweliadau yn y Gymraeg ar eu ffordd i gyd-fynd â’r gyfres Saesneg ei hiaith Mabinogi Monday. Mae croeso i chi adael unrhyw sylwadau neu gwestiynau hoffech chi eu gofyn i storïwyr yn y cyfweliadau sydd i ddod.

Ynys Enlli o Ben Llŷn

Ynys Enlli o Ben Llŷn