Michael Harvey storyteller

cyfarwyddo a dramatwrgi

DSC03580.jpg

cyfarwyddo

rhoi'r chwedl ar lwyfan

Roedd cyfarwyddo theatr yn rhan bwysig fy ngwaith cyn i mi droi yn storïwr llawn amser ac yn ddiweddar mae galw cynyddol am yr hen sgiliau cyfarwyddo ar gyfer storïwyr sydd eisiau rhoi eu gwaith ar lwyfan mwy theatraidd.

Rwy wedi ennill Gwobr Gyfarwyddo Ymddiriedolaeth Rose Bruford a gweithiais i yn rheolaidd gyda chwmnïau theatr mewn addysg (Arad Goch, Theatr Gorllewin Morgannwg, Frân Wen) cwmnïau theatr gorfforol megis Gambolling Guizers a rhai sydd yn gwneud gwaith arbenigol fel Geese Theatre ac unigolion (cyfarwyddais i sioe un dyn Llion Williams Bwr' i Ddau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol).

Yn y byd chwedleua rwy wedi cyfarwyddo fersiwn uchelgeisiol Dominic Kelly y Cylch Ulster, The Hero Light, ac wedi gweithio gyda storïwyr profiadol a newydd fel Jo Blake Cave a Phil Okwedy ac fel cyfarwyddwr ymarferion i griw creadigol Fire in the North Sky.

Yn y byd chwedleua rwy wedi cyfarwyddo fersiwn uchelgeisiol Dominic Kelly y Cylch Ulster,a wedi gweithio gyda storïwyr profiadol a newydd fel a ac fel cyfarwyddwr ymaferion i griw creadigol .

Rwy'n gallu gweithio gyda chi o gychwyn cyntaf eich prosiect hyd at y perfformiadau cyntaf neu ddod mewn yn gynharach yn y broses er mwyn eich helpu darganfod y cysylltiadau rhyngoch chi, y deunydd a'r gynulleidfa. Gallaf eich helpu gweithio mewn ffordd greadigol, ddilys, ddwfn, llawn hwyl neu, hyd yn oed, dod mewn i weld sioe sy bron yn barod a helpu'ch tîm creadigol rhoi ffocws a min ar y gwaith

Proses o alcemi go iawn oedd gweithio gyda Michael. Taith newydd, gyffrous i mewn i ardaloedd newydd...mae’r gwaith mor gyfoethog byddaf yn dadbacio, meddwl a defnyddio elfennau ohono yn y perfformiad hwn a llawer eraill am amser hir.
— Dominic Kelly, chwedleuwr llwyfan

Darllenwch holl ymateb Dominic i fy ngwaith cyfarwyddo yma.