gweithdai

warhorseworkshopbridgendcollege©kirstenmcternan-41.jpg

gweithdai

Dyma fraslun o'r hyfforddiant rwy'n ei gynnig ar gyfer chwedlewyr ac athrawon. Cliciwch ar lluniau er mwyn cael gwybod mwy am weithdai penodol, a sut i gofrestru a thalu am cyrsiau cyfredol. Fel arfer mae llefydd yn mynd yn fuan ar ôl cael eu cyhoeddi felly tanysgrifio i fy rhestr ebost fydd y ffordd orau i sicrhau mai chi fydd ymhlith y cyntaf i glywed.

chwedleua ym Mleddfa

Rwy wedi bod yn arwain a chyd-arwain cyrsiau chwedleua yng Nghanolfan Bleddfa yn Sir Faesyfed ers dros ugain mlynedd lle  cynhelir cwrs wythnos o hyd  yn ogystal â chyrsiau byr ar agweddau penodol storïo. Mae'r cyrsiau yn bwcio nawr.

CIMG2055.jpg

sgiliau cyfrin y chwedl

Y mae llu o dechnegau defnyddiol, manwl a phwerus yn guddiedig o dan ein trwynau yn ein harferion cymdeithasol o adrodd straeon. Yn y gweithdy hwn darganfyddwch beth ydyn nhw a sut i'w defnyddio er mwyn bod yn fwy dilys, rhydd a phresenol wrth adrodd

 

_DSC5961.jpg

rhythm y chwedl

Mae rhythm yn rhan annatod y chwedl fel dull o adrodd ac fel rhan sylfaenol ei strwythur. Unwaith eich bod chi'n dechrau teimlo sut mae rhythm yn gweithio wrth adrodd mae posibiliadau di-ri o'ch blaen. Dysgir y cwrs hwn ar y cyd gyda'r gantores a chyfansoddwraig  Pauline Down.                                                                                                                                             

chwedl y corff

Mae'n cyrff yn adnodd gwerthfawr wrth adrodd ac yn y gweithdy hwn cewch dechnegau syml fydd yn eich galluogi i ddefnyddio ac ymddiried ym mhresenoldeb a phwer y corff ar lwyfan mewn ffordd sydd yn unigryw i chi.

 

DSC01701 2.jpg

llais llafar

Dyma gwrs fydd yn eich galluogi i fagu perthynas creadigol a chyfoethog gyda'ch llais fel rhywun sydd yn adrodd straeon. Byddwn yn gweithio gyda thechnegau i greu mwy o atseinedd a phŵer yn eich llais a'ch gallu cynhenid i gyffwrdd y gynulleidfa'n ddwfn. Mae'r cwrs yn cael eu harwain ar y cyd gyda'r gantores a chyfansoddwraig Pauline Down.

DSC_9834.jpg

y chwedl ar lwyfan

Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio gofod, gwaith byrfyfyr, y corff ac adrodd gydag eraill er mwyn cael perfformio yn effeithiol mewn mannau mwy 'theatrig' heb golli naws ac agosatrwydd y chwedl.                                                                                                                                              

DSC04833.jpg

adrodd mythau

Dewch a myth i weithiau arno a defnyddiwn ni nifer o dechnegau er mwyn treiddio i mewn i'r deunydd hynod a dwfn hwn a dechrau ei adrodd gydag argyhoeddiad a hwyl.  Mae'r gweithdy wedi'i seilio ar ddulliau a helpodd creu y sioau  Hunting the Giant's Daughter and Dreaming the Night Field gyda'r cwmni cynhyrchu Adverse Camber                                                                                                     

DSC_4708.jpg

Shakespeare y storïwr

Gweithiwn ni gyda geiriau Shakespeare ei hunan yn ogystal â'r straeon oedd yn gyfarwydd iddo . Mae'r gweithdy wedi seilio ar y gwaith paratoi ar gyfer y sioe Angerona ac arweinir gyda Paula Balbi.

 

DSC03204.jpg

amser maith yn ol

Mae'r straeon gwerin a gasglwyd gan Grimm, Calvino, John Rhys ac eraill yn ffynonellau naratif gwych ar gyfer unrhywun sydd yn adrodd straeon. Dewch â stori werin ac awn ni ati i ffeindio'r grym, pleser, hud a lledrith sydd yn aros tu fewn a'i rannu gyda chynulleidfa

 

DSC09680.jpg

y dosbarth creadigol

 Mae'r gweithdy hwn yn defnyddio creadigrwydd cynhenid athrawon  ac yn rhoi hwb i'w hyder fel hwylyswyr creadigrwydd ar lawr y dosbarth. Y mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd yn paratoi ar gyfer prosiectau Ysgolion Creadigol Arweiniol a'r cwricwlwm newydd.